Mae llywodraeth y Cynulliad wedi croesawu penderfyniad y Guardian i ddewis Caerdydd fel lleoliad ar gyfer cyflwyno’u gwobrau teithio blynyddol eleni.
Dywed y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, ei fod “wrth ei fodd” y bydd y Guardian and Observer Travel Awards yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd mewn digwyddiad pedwar diwrnod ym mis Hydref.
Dywedodd y bydd Croeso Cymru yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau a phrofiadau i gyd-fynd â’r gwobrau mewn cydweithrediad â’r Guardian. Bydd y rhain yn arddangos dinas Caerdydd a’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel gwlad.
“Mae twristiaeth yn fusnes mawr i Gymru. Mae’n cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i’r economi ac yn cyflogi hyd at 100,000 o bobl ar frig y tymor,” meddai Alun Ffred Jones.
“Rydan ni eisiau i dwristiaeth wneud cyfraniad mwy fyth at economi Cymru ac fe fydd digwyddiadau pwysig fel hyn yn darparu llwyfan i ni gyflawni hyn.”