Mae Japan wedi ail-gychwyn adweithydd niwclear am y tro cyntaf ers iddo gael ei gau 14 blwyddyn yn ôl oherwydd damwain.

Mae gweithwyr yng ngorsaf Monju yn nhref Tsuruga yng ngogledd y wlad wedi cychwyn ar eu gwaith ar ôl cael yr hawl gan lywodraeth y wlad.

Mae’r adweithydd yn defnyddio tanwydd heblaw wraniwm, ac mae’n cynhyrchu sylweddau sy’n gallu cael eu hail-ddefnyddio fel tanwydd.

Bydd yr adweithydd yn cyrraedd lefel gweithredu erbyn dydd Sadwrn gyda phrofion yn parhau cyn gweithredu’n llawn yn 2013.

Fe gychwynnodd Monju yn wreiddiol ym mis Awst 1995, gan barhau am bedwar mis yn unig. Fe gafodd ei gau ar 8 Rhagfyr o’r un flwyddyn ar ôl gollyngiad o’r system oeri.

Ni chafodd neb eu hanafu, ond fe gafodd gweithwyr yr adweithydd eu beirniadu am guddio fideo a oedd yn dangos maint y difrod.

Mae nifer yn credu bod y math yma o adweithydd niwclear yn rhy beryglus a chostus i’w gynnal. Mae Prydain, yr Unol Daleithiau, Ffrainc a’r Almaen eisoes wedi dileu prosiectau o’r fath.