O fewn oriau i farwolaeth arlywydd etholedig y wlad, mae llywodraeth Nigeria wedi cadarnhau Goodluck Jonathan fel arlywydd dros dro.
Bu farw’r Arlywydd Umaru Yar’Adua ddoe, ar ôl gwaeledd hir, a bydd ei angladd y prynhawn yma. Roedd yn 58 oed.
Roedd Goodluck Jonathan wedi gweithredu fel arlywydd ers dechrau mis Chwefror oherwydd gwaeledd Umaru Yar’Adua, a bydd yn parhau yn ei swydd tan etholiadau arlywyddol y wlad y flwyddyn nesaf.
Llun: Y diweddar arlywydd Umaru Yar’Adua yn fuan ar ôl cael ei ethol yn 2007 (AP Photo/George Osodi)