Mae gweithwyr banciau yng Ngwlad Groeg ar streic heddiw mewn protest ar ôl i dri o’u cydweithwyr farw mewn banc a gafodd ei roi ar dân gan brotestwyr.

Mae marwolaethau’r ddwy fenyw ac un dyn wedi synnu’r cyhoedd lle mae trais yn cael ei ddefnyddio’n gyson yn ystod protestiadau.

Dyma oedd y tro cyntaf mewn 20 mlynedd i bobl farw yng Ngwlad Groeg yn ystod protestiadau.

“Rwy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r geiriau i ddatgan fy nicter,” meddai Arlywydd Gwlad Groeg, Karolos Papoulias.

“Roedd ein gwlad ar ymyl y dibyn – ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau nad ydynt yn camu dros yr ochr,” ychwanegodd yr arlywydd.

Fe ddigwyddodd y marwolaethau wrth i tua 100,000 o bobl gorymdeithio trwy strydoedd Athen yn ystod streic genedlaethol yn erbyn cynlluniau’r llywodraeth am doriadau.

Mae llywodraeth Gwlad Groeg yn ceisio gorfodi toriadau gwario a chodiadau trethi er mwyn ceisio achub yr economi.

Maen nhw’n dweud fod pecyn llym o fesurau ariannol yn angenrheidiol er mwyn sicrhau benthyciad o £95 biliwn gan Gronfa Ariannol Ryngwladol yr IMF a 15 o wledydd eraill Ewrop.