Mae gwleidydd amlycaf a mwyaf lliwgar Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Ukip – wedi cael ei anafu mewn damwain awyren.
Aed â Nigel Farage i’r ysbyty ar ôl i’w awyren ymgyrchu ddisgyn i’r llawr ym maes awyr Hinton-in-the-Hedges yn swydd Northampton ychydig ar ôl 8 o’r gloch y bore yma. Cafodd y peilot hefyd ei anafu.
Yn ôl adroddiadau’r heddlu, nid yw’r naill na’r llall wedi dioddef anafiadau difrifol.
Roedd Nigel Farage yn hedfan mewn awyren yn llusgo baner gyda’r slogan “Vote for your country – Vote Ukip”, a’r bwriad oedd hedfan dros siroedd Buckingham, Rhydychen a Northampton.