Mae un o feysydd pêl-droed gorau Cymru wedi cael ei roi yn nwylo cefnogwyr lleol ac fe allai hynny arwain at atgyfodi clwb pêl-droed yn Lloegr.
Fe ddaeth clwb Dinas Caer i ben ynghynt eleni ar ôl iddo fethu â thalu ei ddyledion i’r Adran Cyllid a Thollau ond mae gobaith bellach y bydd yn cael ei ail-ffurfio.
Roedd Chester Fans United yn cystadlu yn erbyn consortiwm o Ddenmarc, Fodbold Selsabet, i gael rheoli Stadiwm Deva sydd ar y ffin â Chymru. Mae’r maes chwarae ei hun ar yr ochr yma.
Fe gyflwynodd y ddwy garfan eu syniadau i banel a oedd yn cael ei arwain gan brif weithredwr Cyngor Caer, Steve Robinson. Fe benderfynodd y panel o blaid cynnig y cefnogwyr.
‘Angerdd’
Fe ddywedodd Steve Robinson bod angerdd a phenderfyniad y cefnogwyr i gynnwys y gymuned yn ffactorau allweddol wrth roi les pum mlynedd iddyn nhw.
“Roedd y consortiwm Danaidd wedi cyfuno angerdd amlwg at bêl droed Seisnig gyda syniadau arloesol a chefnogaeth ariannol,” meddai’r prif weithredwr.
“Er hynny, roedd y panel yn unfrydol bod Chester Fans United yn fwy blaengar o ran y strwythur rheoli angenrheidiol a’r gallu i roi tîm ym mha bynnag gynghrair y bydd Cymdeithas Bêl Droed Lloegr yn penderfynu eu rhoi nhw.”