Mae awdurdodau yn yr Unol Daleithiau yn credu mai gweithio ar ei ben ei hun yr oedd yr Americanwr o dras Pacistanaidd a geisiodd danio bom car yn Efrog Newydd.

Mae Faisal Shahzad yn wynebu cyhuddiadau o derfysgaeth ar ôl iddo gyfaddef iddo lenwi’r cerbyd gyda nwy a thanwydd a’i adael yn Times Square ynghanol y ddinas.

Mae’r awdurdodau wedi canfod dau glip fideo o Faisal Shahzad – un ohono’n prynu tân gwyllt mewn siop yn Pennsylvania a’r llall yn ei ddangos yn cerdded oddi wrth y Nissan Pathfinder a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad. Roedd hwnnw i’w weld yn mygu.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, dydyn nhw ddim yn credu bod neb arall yn rhan o’r ymgais derfysgol a does dim cysylltiad gyda chyfres o arestiadau ym Mhacistan.

Mae’r awdurdodau’n credu bod Faisal Shahzad wedi dechrau cynllunio’r ymosodiad cyn gynted ag y dychwelodd o Bacistan i’w gartref yn Connecticut ym mis Chwefror.