Erbyn hyn, mae saith o bobol wedi cael eu harestio ynglŷn ag ymosodiadau terfysgol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe gadarnhaodd heddlu ar ddwy ochr y ffin gyda Gweriniaeth Iwerddon eu bod wedi eu cymryd i’r ddalfa ar ôl cyrch yn erbyn mudiadau gweriniaethol ymylol.

Fe ddigwyddodd yr arestio o fewn llai na 24 awr i’r ymosodiad diweddara’ gan fudiadau o’r fath.

Chafodd neb ei frifo pan osodwyd bom y tu allan i swyddfa heddlu yn Lurgan yn Swydd Armagh yn hwyr echnos, ond mae’n un o nifer o ddigwyddiadau tebyg wrth i’r mudiadau ymylol wrthryfela yn erbyn y broses heddwch.

Roedd pump o’r bobol wedi eu harestio yng Ngogledd Iwerddon – tri yn Swydd Down ac wedyn un yn Derry ac un arall yn Strabane.

Mae dau arall wedi eu harestio yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Llun: Arwydd yr heddlu wedi’r bom echnos (Gwifren PA)