Cafwyd dyn o Bacistan yn euog heddiw o saethu dwsinau o bobol yn ystod ymosodiad terfysgol Tachwedd 2008 yn Mumbai.

Mohammed Ajmal Kasab yw’r unig un o’r 10 o derfysgwyr laddodd 166 o bobol yn ystod yr ymosodiad tri diwrnod sydd dal yn fyw.

Dywedodd yr erlynwyr ei fod o a’r terfysgwyr eraill wedi lladd 58 o bobol ac anafu 104 arall yn un o orsafoedd trenau mwyaf prysur Mumbai.

Mae India yn beio’r grŵp terfysgol o Bacistan, Lashkar-e-Taiba, am yr ymosodiad. Fe fydd Mohammed Ajmal Kasab yn cael ei ddedfrydu yfory.

Roedd y dystiolaeth yn ei erbyn yn cynnwys ffilm o gamerâu cylch cyfyng o boptu’r orsaf drenau a thystiolaeth dros 600 o lygaid dystion.

Cafodd Mohammed Ajmal Kasab ei arestio ar ddiwrnod cyntaf yr ymosodiadau terfysgol.

Cyfaddefodd fis Gorffennaf diwethaf ei fod o wedi bod yn rhan o’r ymosodiadau, cyn gwadu hynny a dweud ei fod o wedi ei arteithio.

Mae’r ymosodiadau wedi ychwanegu mwy o bwysau i’r berthynas anodd rhwng India a Phacistan.