Mae Barack Obama wedi rhybuddio y gallai’r clwt olew yn Gwlff Mexico achosi “trychineb amgylcheddol anferth a digynsail”.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y galli gymryd sawl diwrnod i atal yr olew rhag gollwng o blatfform Deepwater Horizon, wnaeth ffrwydro a suddo ar 20 Ebrill.

Rhuthrodd Barack Obama i de talaith Louisiana ddoe wrth i’r llywodraeth bwysleisio eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu.

Mae o eisiau osgoi cael ei gymharu gydag ymateb George Bush i’r Corwynt Katrina yn 2005. Bryd hynny fe wnaeth y llywodraeth ymateb yn araf a disgynnodd poblogrwydd yr arlywydd.

Hedfanodd Barack Obama mewn hofrennydd dros y dŵr er mwyn gweld y clwt olew 30 milltir o hyd sydd wedi ffurfio uwchebn y pibell sy’n gollwng 210,000 galwyn o olew i’r Gwlff bob dydd.

Mae’r clwt olew yn bygwth amgylchedd a diwydiant pysgota mawr yr arfordir, sef “calon bywyd economaidd yr ardal” yn ôl Barack Obama.

Hyd yn hyn dyw’r awdurdodau heb allu atal y llif olew, sydd erbyn hyn wedi drifftio tuag at draethau Mississippi a Florida.

Dywedodd cadeirydd cwmni Prydeinig BP, sydd piau’r platfform olew, y byddai’n bosib atal y llif drwy ostwng cromen anferth ar ben y bibell ac yna pwmpio’r olew i’r wyneb.

Maen nhw wedi defnyddio cromenni o’r fath yn y gorffennol ond byth mewn dyfroedd milltir o ddyfnder fel hyn.

“BP sy’n gyfrifol am hyn, a BP fydd yn talu’r pris,” meddai Barack Obama.