Mae’r Sefydliad ar gyfer Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi dweud fod Prydain yn wynebu “argyfwng cyfansoddiadol” ym Mhrydain pe bai yna Senedd Grog.

Yn ôl y sefydliad mae’r Ceidwadwyr yn debygol o gael mwyafrif clir yn Lloegr yn dilyn yn yr etholiad, gyda’r Blaid Lafur yn sicrhau mwyafrif yng Nghymru a’r Alban.

Pe bai David Cameron yn penderfynu sefydlu llywodraeth Geidwadol leiafrifol yn dilyn yr etholiad fe allai hynny olygu ei fod o’n wynebu gwrthwynebiad ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig gan ASau o du allan i’r wlad.

“Ni fyddai llywodraeth leiafrifol Geidwadol yn leiafrif yn Lloegr,” meddai’r sefydliad. “Mae’n rhan fwyaf o’r polau piniwn diweddar yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr ennill 290 sedd, a bydd bron i bob un yn cael ei ennill yn Lloegr.

“Fe fyddai hynny’n golygu fod ganddyn nhw fwyafrif yn Lloegr, ond fe fydden nhw 30-40 sedd yn brin o fwyafrif ar draws Prydain (hyd yn oed pe baen nhw’n dod i gytundeb gydag unoliaethwyr Ulster).

“Beth sy’n digwydd os ydi’r pleidiau eraill yn defnyddio ASau o du allan i Loegr er mwyn atal polisïau sy’n effeithio ar Loegr yn unig?”

Fe fyddai sefyllfa debyg pe bai Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn clymbleidio, meddai’r sefydliad. Fe fyddai’n rhaid i’r ddwy blaid ddefnyddio ASau o du allan i Loegr er mwyn gwireddu polisïau sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

Mae’r sefydliad yn awgrymu y byddai sefyllfa o’r fath yn arwain at ddatganoli i Loegr yn y pen draw.

“Mae Cymru a’r Alban wedi eu rheoli’n gyson gan lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan, a’r sefyllfaoedd rheini wnaeth arwain at alwadau am ddatganoli yn y lle cyntaf.”