Mae gwraig tŷ o Awstralia wedi ennill $74,070 drwy gamgymeriad wrth gamblo ar lein am hwyl heb sylweddoli ei bod hi wedi mewngofnodi ar gyfrif ei gŵr.

Roedd Lisa, mam 43 oed i ddau o blant o Melbourne, Awstralia, yn meddwl ei bod hi wedi cofrestru ar Casino.com i chwarae am hwyl yn unig ar ei chyfrif hi. Ar ôl 20 munud o chwarae fe wnaeth hi ennill $920 ac ar ôl 40 munud arall roedd hi wedi ennill $74,070.

Dim ond wedyn sylweddolodd hi ei bod hi wedi ei chofrestru ar gyfrif go iawn ei gwr ac wedi bod yn chwarae ar lein gyda’i arian o.

Ar ôl darganfod beth oedd wedi digwydd, mae’n debyg bod ei gŵr hi wedi ‘maddau’ iddi am ei chamgymeriad ac wedi mynd a hi allan am bryd o fwyd i ddathlu.

“Dw i eisiau parhau i fod adref gyda’r plant,” meddai Lisa. “Ond bydd yr arian ychwanegol yn gwneud pethau’n lot haws i ni nawr.”

(Llun: Gwefan Casino.com)