Mae David Cameron yn awyddus i osgoi clymbleidio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ac fe fydd yn ceisio arwain llywodraeth leiafrifol os nad yw yn ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol dydd Iau.

Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph mae arweinydd y Ceidwadwyr yn obeithiol y bydd o’n sicrhau mwyafrif, yn dilyn cyfres o bolau piniwn sy’n awgrymu bod cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar drai.

Yn ôl y papur mae David Cameron yn gobeithio dod i gytundeb gydag ASau pleidiau bychain unoliaethol – sy’n awgrymu na fydd yn awyddus i drafod gyda Phlaid Cymru a’r SNP.

Pe bai’n methu a sicrhau mwyafrif fe fyddai pleidleisiau’r pleidiau bychan o Ogledd Iwerddon yn ddigon iddo basio ei gyllideb gyntaf yn San Steffan.

Maen nhw’n dibynnu ar Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i beidio â chreu clymblaid “amhoblogaidd” pe bai’r Ceidwadwyr ar y blaen o ran nifer seddi a phleidleisiau dydd Gwener.

“Does dim angen clymblaid ffurfiol os ydi’r unoliaethwyr yn pleidleisio gyda ni o blaid y ddeddfwriaeth allweddol,” meddai ffynhonnell o fewn y blaid.

Mae’r Ceidwadwyr bellach yn ffefrynnau i ennill yr Etholiad Cyffredinol gyda mwyafrif gyda rhai o’r bwcis. Mae Coral wedi newid yr ods o fwyafrif o 5-4 ar ddydd Sadwrn i 8-11 ddoe.