Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i fom mewn car gafodd ei adael ger Times Square Efgrog Newydd yn dweud fod ganddyn nhw ffilm camera cylch cyfyng o’r dyn allai fod yn gyfrifol yn diosg ei ddillad mewn ale.
Mae’r ffilm camera cylch cyfyng yn dangos dyn yn ei 40au yn tynnu crys gan ddatgelu un arall oddi tanodd, yn ôl Comisiynydd yr heddlu Raymond Kelly.
Dywedodd bod swyddogion yr heddlu ar eu ffordd i dref yn Pennsylvania er mwyn siarad gyda theithiwr arall sydd o bosib wedi recordio’r dyn ar ei gamera fideo.
Does dim tystiolaeth mai Taliban Pacistan oedd yn gyfrifol am y bom, er eu bod nhw wedi hawlio cyfrifoldeb, meddai.
Daeth yr heddlu o hyd i’r car ‘SUV’ ar stryd Broadway nos Sadwrn, ger rhai o’r theatrau mwyaf poblogaidd oedd yn dangos sioeau fel The Lion King.
Bu’n rhaid i gannoedd o dwristiaid adael yr ardal am 10 awr. Cafodd y bom ei dynnu’n ddarnau a does neb wedi ei anafu.
Roedd yr SUV yn cynnwys tri thanc o bropan, tân gwyllt, dau gynhwysydd petrol pum galwyn, dau gloc, gwifrennau electronic a darnau eraill, meddai’r heddlu.
Mae’n amlwg mai’r nod oedd y byddai’r clociau yn cynnau’r tân gwyllt ar yr amser cywir a bod y rheini yn eu tro yn tanio’r caniau petrol a’r propan, meddai Raymond Kelly.
Dywedodd bod pobol Efrog Newydd yn lwcus nad oedd y bom wedi tanio ac y byddai wedi achosi tipyn o ddinistr. Byddai’r ffrwydrad wedi chwythu’r car yn ei hanner, meddai.