Mae dynes wedi cael ei hachub o ochor clogwyn a’u cario i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl disgyn wrth gerdded yn Sir Benfro.

Cafodd y ddynes 28 oed ei hachub pnawn ddoe ar ôl iddi dorri ei ffêr wrth ddisgyn ger Porth -mawr, Tŷ Ddewi.

Rhedodd dau o wylwyr y glannau ar hyd y traeth a dros gerrig er mwyn achub y ddynes o fewn 15 munud i gael gwybod ei bod hi wedi disgyn.

Roedd y ddynes yn dioddef o sioc a phenysgafnder ac fe fu’n rhaid i’r achubwyr roi ocsigen iddi ar ôl galw am Ambiwlans Awyr Cymru. Cymerwyd hi i Ysbyty Withybush yn Hwlffordd.

“Cafodd yr achubwyr Ali Richards a Sean Ellison wybod bod y ddynes ifanc mewn sefyllfa anodd ar ôl i aelodau o’r clwb syrffio rhoi gwybod iddyn nhw toc wedi 1.30pm ddoe,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau.

“Rhedodd y ddau o Borth-mawr at y ddynes oedd wedi disgyn ger cildraeth Porth Melgan. Roedd y ddynes wedi baglu a disgyn chwe troedfedd wrth gerdded gyda’i phartner a’u ci ar hyd yr arfordir.

“Gwelodd y Gwylwyr y Glannau nad oedd y claf yn gallu symud ac mewn lot o boen. Ond er bod y ddynes wedi glanio’n lletchwith penderfynon nhw beidio ei symud hi ond galw Ambiwlans Awyr Cymru yn lle.”