Prif neges Plaid Cymru dros ddyddiau olaf yr ymgyrch yw fod y Blaid Lafur eisoes wedi colli’r etholiad, ac mai ethol rhagor o aelodau Plaid Cymru yw’r unig ffordd o amddiffyn Cymru rhag toriadau llym mewn gwario cyhoeddus.
“Y ffaith ydi fod Gordon Brown wedi rhoi’r ffdil yn y to, ac yn mynd yn fwyfwy negyddol ei agwedd,” meddai arweinwydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
“Mi fyddwn ni’n mynd ati o ddifrif dros y dyddiau nesaf i argyhoeddi cefnogwyr Llafur ei bod hi ar ben ar lywodraeth Gordon Brown, ac mai’r unig ffordd o warchod buddiannau Cymru ydi pleidleisio i Blaid Cymru.”
Gan ddadlau bod pleidlais Llafur yn chwalu, dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai Plaid Cymru’n ennill rhagor o seddau.
“Mae symudiad clir o’r Blaid Lafur at Blaid Cymru i’w weld yn amlwg yn yr etholaethau hynny yr ydan ni wedi eu targedu,” meddai.
Gyda’r arolygon barn yn dal i ddangos bod senedd grog yn debygol, gobaith Ieuan Wyn Jones y byddai hynny’n rhoi Plaid Cymru a’r SNP mewn sefyllfa i fargeinio am gonsesiynau i Gymru.