Gyda phedwar diwrnod i fynd tan ddydd yr etholiad, mae arweinwyr y pleidiau gwleidyddol wedi bod wrthi’n ymgyrchu’n ddi-baid trwy’r dydd.

Ar ddiwedd taith o amgylch etholaethau ymylol yn Llundain, mae’r Prif Weinidog Gordon Brown yn mynnu y bydd yn ymladd i’r diwedd.

Dywedodd fod pobl yn dechrau gweld y dewisiadau sy’n eu hwynebu ddydd Iau, ac ymosododd ar y wasg am ganolbwyntio ar bethau ‘arwynebol’.

“Dw i’n ymladd am fy mywyd, ond nid er fy mwyn fy hun – dw i’n ymladd dros bobl Prydain,” meddai.

“Dydyn ni ddim am stopio tan y bydd yr etholiad drosodd ac rydym yn cael ein neges drosodd fod dewis gwirioneddol sy’n rhaid ei wneud.”

Gan droi ar newyddiadurwyr, meddai:

“Pam na rowch chi sylw i bolisïau’r ymgyrch? Rhaid ichi wybod bod yr etholiad hwn yn ymwneud â pholisi.”

Nick Clegg

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg wedi treulio’r diwrnod yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur yng ngogledd Lloegr.

Ei nod oedd argyhoeddi cefnogwyr y Blaid Lafur yno mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig ddewis arall heblaw llywodraeth Geidwadol.

“Dw i’n deall pa mor anodd yw hi i gefnogwyr Llafur dorri arferion cenedlaethau,” meddai.

“Dw i’n deall fod peidio â phleidleisio dros Lafur yn teimlo fel brad i rai pobl. Ond yr hyd yr ydw i’n ei ddweud wrthoch chi yw: nid chi sydd wedi bradychu Llafur, Llafur sydd wedi’ch bradychu chi.”

David Cameron

Ymysg yr etholaethau ymylol yr David Cameron, arweinydd y Torïaid, â nhw heddiw oedd Delyn, yn Sir y Fflint, sedd lle cafodd y Blaid Lafur fwyafrif o 6,500 yn 2005.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar BBC1 y bore yma, addawodd y byddai’n ymddwyn yn “gyfrifol” petai’r etholiad yn arwain at senedd grog.

Gan ddweud y byddai’n dal i frwydro dros y dyddiau nesaf am fwyafrif llwyr dros y plediau eraill, dywedodd y byddai’n gweithredu “er budd y wlad” beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad.

“Os bydd senedd grog, a fyddai’n golygu llawer o anfanteision yn fy marn i fel yr ydw i wedi dweud, fe fydden ni’n ymddwyn yn gyfrifol, fe fydden ni’n gwneud popeth y gallen ni i gael llywodraeth dda a llywodraeth gref er budd y wlad.”

Llun: David Cameron yn ymgyrchu yn siop Tesco Treffynnon heddiw (Stefan Rousseau/Gwifren PA)