Mae disgwyl mai Ynys Môn fydd un o’r etholaethau cyntaf i ddangos sut y bydd y gwynt etholiadol wedi chwythu yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain ddydd Iau.
Mae’n debyg y bydd yr etholaeth yn un o’r seddau ymylol cyntaf i gael eu cyhoeddi tua 1.00 fore Gwener – oriau ynghynt na mwyafrif etholaethau Prydain.
Yn sgil rheoliadau newydd i osgoi twyll, yn enwedig pleidleisiau post, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd y cyfrif wedi ei gwblhau mewn llawer o etholaethau cyn 3 o’r gloch fore Gwener. Mae disgwyl y byddi hi wedi 4 o’r gloch ar hyd at hanner etholaethau Prydain yn cyhoeddi.
Fel etholaeth ymylol rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, fe fydd canlyniad Ynys Môn yn arwydd clir o berfformiad y ddwy blaid.
Gyda Phlaid Cymru o fewn ychydig dros fil i gipio’r sedd oddi ar Albert Owen o’r Blaid Lafur y tro diwethaf, mae hi’n un o’r seddau y mae’n rhaid i Blaid Cymru ei hennill os am gynyddu nifer ei haelodau seneddol.
Er bod y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhell y tu ôl y tro blaen, fe allai unrhyw ogwydd tuag atyn nhw o du’r Blaid Lafur neu Blaid Cymru fod yn ffactor cwbl allweddol.
Gan gadw mewn cof fod ffactorau lleol yn gallu chwarae rhan bwysicach ym Môn nag yn y mwyafrif o etholaethau, mae canlyniad yr ynys er hynny’n sicr o adlewyrchu tueddiadau ehangach yng Nghymru ac ym Mhrydain.