Mae Bangor wedi ennill Cwpan Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ôl curo Port Talbot 3-2 ar Barc y Scarlets.

Fe sgoriodd Dave Morley y gôl fuddugol i dîm Neville Powell ym munudau olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth ddramatig.

Roedd Bangor 2-0 ar y blaen ar hanner amser ar ôl goliau gan Lee Hunt a Jamie Reed o fewn chwarter awr gyntaf y gêm.

Ond fe darodd Port Talbot ‘nôl yn yr ail hanner gyda Drew Fahiya yn haneri’r fantais, cyn i Liam McCreesh unioni’r sgôr gydag ond pum munud o’r gêm yn weddill.

Gyda’r dyfarnwr yn chwarae amser ychwanegol ar ddiwedd y 90 munud fe enillodd Bangor cic gosb wrth ymyl cwrt cosbi Port Talbot.

Fe beniodd Dave Morley y bêl mewn i gefn y rhwyd oddi ar groesiad Sion Edwards i sicrhau’r cwpan a’u lle yn Ewrop y tymor nesaf.