Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ŵr o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers dydd Gwener, 23 Ebrill.
Mae Raymond George Fedeli yn 56 oed ac yn dod o ardal y Waun. Mae’n bum troedfedd pum modfedd o daldra, efo corff maint canolig a gwallt brith sy’n teneuo.
Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn trenau, ac mae’r wybodaeth ddiweddara’ i ddod i law yn awgrymu ei fod yn ardal Avon a Gwlad yr Haf y penwythnos hwn.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth bellach, fe ddylen nhw ffonio’r Heddlu ar 01656 655555 neu 101.