Mae’r Crusaders wedi curo’r Bradford Bulls 19-0 yng ngêm agoriadol penwythnos y Super League yng Nghaeredin.

Fe sgoriodd y maswr, Michael Witt 15 pwynt wrth i’r clwb Cymreig ddod i ben a record chwe gêm heb golli y Bulls.

Roedd tîm Brian Noble wedi dechrau’n gryf ac fe groesodd Witt y llinell gais dwywaith yn yr hanner cyntaf.

Fe ychwanegodd y maswr y ddau drosiad yn ogystal â chic adlam i roi’r Crusaders 13-0 ar y blaen ar yr egwyl.


Sammut yn symud

Cafodd y canlyniad ei gadarnhau gyda chais arall gan y mewnwr, Jarrod Sammut, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf dros y clwb ers arwyddo yn gynharach yn yr wythnos.

Dyma oedd y tro cyntaf mewn pedair blynedd i’r Bradford Bulls fethu â sgorio’r un pwynt, ar ôl perfformiad amddiffynnol cadarn gan y Crusaders.

Dyma bumed fuddugoliaeth y Crusaders o’r tymor a fydd yn hwb i’w gobeithion o gystadlu yn y gemau ail-gyfle.