Mae Caerdydd wedi cadarnhau y bydd cadeirydd presennol y clwb, Peter Ridsdale yn gadael ei swydd ar ddiwedd y mis.
Mae’r Adar Gleision wedi dod i gytundeb gyda buddsoddwr o Falaysia, Datuk Chan Tien Ghee.
Fe fydd y buddsoddiad yn sicrhau dyfodol y clwb, gyda Chaerdydd yn y llys ddydd Mercher nesa’ i wynebu gorchymyn dirwyn i ben.
Y dyn â’r arian
Mae Datuk Chan Tien Ghee yn bwriadu buddsoddi £6m yng Nghaerdydd ac fe fydd yn berchen ar tua 40% o’r clwb.
“O ganlyniad i’r buddsoddiad fe fydd y cadeirydd a prif weithredwr y cwmni, Peter Ridsdale yn rhoi’r gorau i’w swydd ac yn gadael y cwmni ar 31 Mai 2010,” meddai datganiad gan gyfarwyddwyr Caerdydd.
Ridsdale – dweud dim
Dyw Peter Ridsdale ddim wedi gwneud datganiad ar y mater, ond mae wedi nodi yn y gorffennol y byddai’n amser iddo adael y clwb pan fyddai buddsoddiad newydd yn cael ei sicrhau.