Mae cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad Ceredigion wedi talu teyrnged i un o sylfaenwyr canghennau Plaid Cymru yn y sir, gan ei ddisgrifio fel gweithiwr “diflino” dros genedlaetholdeb.
Bu farw Hywel Heulyn Roberts, Cadeirydd cyntaf Cyngor Dyfed a chyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, yn 91 mlwydd oed.
“Gosododd Hywel Heulyn Roberts sylfeini trefniadaeth y Blaid yng Ngheredigion drwy ei waith diflino yn sefydlu rhwydwaith o ganghennau,” meddai Cynog Dafis, gan gyfeirio at ei waith yn ystod y 1950au.
“Yn ogystal â hynny, bu ei deyrngarwch i’r Blaid a’i waith ymarferol yn canfasio drosti yn werthfawr dros ben.
“Yn bersonol,” meddai Cynog Dafis wedyn, “mi gefais i gefnogaeth ganddo fe fel darpar Aelod Seneddol, ac yna fel Aelod Seneddol.”