Fe gafodd dyn a dorrodd ar draws un o gyfarfodydd ymgyrchu Gordon Brown heddiw, ei lusgo o’r digwyddiad.
Fe waeddodd Julian Borthwick, 38, “What about the bigoted woman?” ar y Prif Weinidog, gan gyfeirio at ei sylwadau am y bensiynwraig Gillian Duffy yn Rochdale yn gynharach yr wythnos hon.
Ond wedi iddo siarad, fe ddaeth swyddogion i’w lusgo ymaith, cyn i’r heddweision sy’n gwarchod y Prif Weinidog ei lusgo o’r National Glass Centre yn Sunderland.
Roedd Mr Borthwick, sydd â gradd yn y Gyfraith o Rydychen, wedi gweiddi hefyd “Rydan ni’n brôc”, gan gyfeirio at ddyledion gwledydd Prydain.
Cario ymlaen
Fe gariodd Gordon Brown ymlaen gyda’i araith, gan ddweud y byddai “digon o amser” i holi cwestiynau wedyn.