Mae miloedd o brotestwyr wedi bod ar strydoedd dinas Athen heddiw, yn flin ynglyn â sefyllfa economaidd y wlad a chynlluniau y llywodraeth ynglyn â sut i ddod allan o’r llanast.

Fe fu gwrthdaro wedi i anarchwyr ddechrau taflu bomiau petrol at yr heddlu, ac wrth i’r heddlu daro’n ôl trwy ddefnyddio nwy dagrau er mwyn ceisio rheoli’r dorf.

Fe allai mwy o helynt godi ddydd Mercher, pan fydd ehediadau i mewn ac allan o’r wlad yn cael eu heffeithio gan streic 24-awr.

Dod allan o ddyled

Mae llywodraeth Groeg ar fin cyhoeddi mwy o doriadau ar gyfer y flwyddyn 2012, er mwyn ceisio ennill pecyn cymorth gwerth 45 biliwn ewro gan wledydd eraill Ewrop.

Ond, yn ôl un o’r protestwyr, mae mesurau’r llywodraeth yn “lladdfa” i’r wlad.

“Sut mae pobol yn mynd i fyw fory, sut maen nhw’n mynd i oroesi dan y drefn lem yma? Dw i ddim yn deall. Mae’r mesurau yma’n lladdfa.”

Mae aelodau undeb yn gorymdeithio tuag at swyddfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn Athen, gan fynd yn eu blaenau wedyn tuag at Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau.

Mae 5,000 o bobol wedi bod yn protestio yn ninas ogleddol Thessaloniki, lle bu ychydig o wrthdaro gyda’r heddlu. Fe gafodd rhai siopau eu difrodi.