Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol gan ddweud eu bod nhw’n bartneriaid “hynod o annibynadwy” mewn clymblaid.

Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones y Ceidwadwyr a Llafur i edrych ar record y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru cyn clymbleidio gyda nhw.

“Y tro diwethaf i rywun ofyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol a oedden nhw eisiau ffurfio clymblaid fe ddaethon nhw o fewn plisgyn chwannen i wneud hynny cyn troi cefn ar y trafodaethau ar y 11eg awr,” meddai Ieuan Wyn Jones mewn cyfarfod gyda’r wasg yn San Steffan.

“Dyna wers i unrhyw un yn fy marn i.”

Dim clymbleidio

Daeth sylwadau Ieuan Wyn Jones wrth i Blaid Cymru a’r SNP ddweud na fydden nhw’n ymuno gydag unrhyw glymblaid ffurfiol pe bai’r un blaid yn cael mwyafrif clir ar 6 Mai.

Byddai Plaid Cymru a’r SNP yn pleidleisio “fesul pwnc” er lles pobol Cymru a’r Alban, meddai.

Ychwanegodd arweinydd yr SNP Alex Salmond bod senedd grog “bron â bod yn sicr” bellach.

“Fe fyddai’n gyfle gwych i bobol yr Alban a Chymru,” meddai. “R’yn ni eisiau cymryd y cyfle hwnnw. Fe fydden ni’n defnyddio grym ein pleidlais er budd pobol ein gwlad ni.”

Dywedodd y ddau arweinydd y bydden nhw’n ffurfio “bloc Celtaidd” er mwyn sicrhau bod Cymru a’r Alban yn cael eu hariannu’n deg ac yn diogelu gwasanaethau rheng flaen.

Roedd llywodraethau “cytbwys” wedi gweithio yng Nghymru a’r Alban ac roedd mwyafrif yn San Steffan heb weithio er lles Ynysoedd Prydain, meddai nhw.