Fe fydd cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale yn gadael y clwb cyn gynted ag y bydd ymgyrch yr Adar Glas yn y gemau ail gyfle’n dod i ben.

Mae cyfarwyddwyr y clwb yn barod i dderbyn buddsoddiad o £6m gan bobol fusnes o Falaysia.

Mae’r dyn busnes Dato Chan Tien Ghee, sydd y tu ôl i’r buddsoddiad, yn hedfan i Brydain heddiw i gwblhau’r cytundeb a fydd yn sicrhau mai ef fydd biau tua 40% o glwb y brifddinas.

Dyw’r Ridsdale ddim wedi gwneud datganiad ar y mater, ond mae wedi nodi yn y gorffennol y byddai’n amser iddo adael y clwb pan fyddai buddsoddiad newydd yn cael ei sicrhau.

Sicrhau’r dyfodol

Byddai’r buddsoddiad yn sicrhau dyfodol y clwb gyda Chaerdydd yn y llys ddydd Mercher nesa i wynebu gorchymyn dirwyn i ben.

Fe allai’r cysylltiad gyda’r Dwyrain Pell agor mwy o ddrysau i Gaerdydd o ran cyllid a buddsoddiad pellach yn y dyfodol.

Mae yna adroddiadau fod dyn busnes arall o Falaysia, Vincent Tan, sydd â chyfoeth personol o tua £1.3bn, hefyd yn barod i fuddsoddi yng Nghaerdydd.

Y gred yw ei fod yn barod i fuddsoddi cyn gynted ag y bydd yn gwybod ym mha adran y bydd y clwb yn chwarae’r tymor nesaf.