Doedd dim gobaith i wasanaethau cymdeithasol Casnewydd atal marwolaeth merch bedair oed o Gasnewydd a gafodd ei mygu gan ei mam, cyhoeddodd adroddiad heddiw.
Ond mae wedi tynnu sylw at ddiffygion ac yn crybwyll gwendidau ar ran un gweithiwr cymdeithasol penodol.
Roedd marwolaeth Zoe-Ann David yn “ddigwyddiad trasig” yn ôl adolygiad i’w marwolaeth sy’n cynnig cyfres o argymhellion ac yn nodi methiannau gan asiantaethau.
Cafodd ei mam Zoe ei gyrru am gyfnod amhenodol i ysbyty iechyd meddwl fis Rhagfyr diwethaf ar ôl cyfaddef i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn hollol gyfrifol am ei gweithredoedd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod hi’n dioddef o sgitsoffrenia paranoid difrifol.
Daethpwyd o hyd i Zoe-Ann yn farw yn ei phyjamas yn ei chartref yng Nghasnewydd, fis Mehefin diwethaf.
‘Gofal da’
Cafodd y ferch fach ei gosod ar restr amddiffyn plant yn 2007 ar ôl i’r teulu symud o Lundain i Gasnewydd, ond cafodd ei thynnu oddi ar y rhestr eto ym mis Medi’r flwyddyn honno.
Yn ôl Bwrdd Gwarchod Plant Casnewydd roedd hi’n iach ac yn datblygu’n dda. Roedd ei mam wedi gweithio’n galed i wella’r amgylchiadau gartref ac yn “darparu gofal oedd yn ddigon da”, meddai’r adroddiad.
Dywedodd yr adroddiad fod y penderfyniad i’w thynnu hi oddi ar y rhestr wedi bod “yn rhy gynnar” ond na fyddai “wedi gwneud gwahaniaeth mawr”.
“Parhaodd y gwasanaethau i roi cefnogaeth tan wanwyn 2008, yn briodol mae’n debyg am nad oedd pryderon mawr ynglŷn â’r gofal.
“Mae’r adolygiad yn awgrymu bod marwolaeth Plentyn 1 yn ddigwyddiad trist a trasig, na fyddai’n bosib i’r asiantaethau fod wedi ei ragweld nag ei atal.”
Dibrofiad
Yn ôl yr adroddiad roedd y gweithiwr cymdeithasol oedd wedi ei benodi i’r achos yn ddibrofiad, heb dderbyn unrhyw hyfforddiant i ofalu am blant, dan ormod o bwysau gwaith a heb ei goruchwylio ddigon gan reolwr oherwydd bod bylchau yn y tîm.
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Gwarchod Plant Casnewydd, Stewart Green na fyddai unrhyw staff yn cael eu cosbi.
“Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir nad oes unrhyw dystiolaeth o gamymddygiad neu anghymwyster proffesiynol o gwbl,” meddai.