Bydd y gymuned jazz yng Nghymru’n dod at ei gilydd yr wythnos nesaf i ail-lansio Treftadaeth Jazz Cymru ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Bydd yr elusen gofrestredig – ‘Women in Jazz Swansea’ oedd yr hen enw – yn cael ei hail-lansio’n swyddogol ddydd Mercher.

Rhan o waith yr elusen fydd addysgu plant cynradd am wreiddiau jazz yng Nghymru o’r 1830au, pan oedd gan Gymru symudiadau gwrth gaethwasiaeth amlwg.

Mae’r elusen yn “dathlu enw newydd, cartref newydd a chyfnod newydd o gydweithio gyda’r Brifysgol,” meddai Jen Wilson, sylfaenydd yr elusen wrth Golwg360.

Bydd band Women in Jazz Band Swing Allstars yn perfformio yn yr agoriad yn ogystal â thriawd Paula Gardiner, un o noddwyr yr elusen.

Jazz yn ‘rhan o Gymru’

Fe fydd yr elusen yn teithio o amgylch ysgolion yn eu haddysgu am hanes jazz yng Nghymru rhwng 8 Mehefin a 13 Gorffennaf eleni.

“Mae hyn i gyd ynglŷn â dod a Jazz yn ôl i mewn i’r maes academaidd. Mae Jazz yn rhan o’n treftadaeth gerddorol, mae’n rhan o Gymru,” meddai Jen Wilson wrth Golwg360.

“Mae plant wrth eu boddau… Heb gerddoriaeth caethweision a chaneuon ‘gospel’, ni fyddai cerddoriaeth boblogaidd yn bodoli.

“Gwleidyddiaeth a datblygiadau cymdeithasol sydd wedi newid cerddoriaeth,” meddai, cyn ychwanegu ei bod hi wedi dechrau gwrando ar jazz pan oedd yn chwech oed.

Mae casgliad archif Treftadaeth Jazz Cymru yn cynnwys casgliad unigryw i Gymru o ffotograffau, recordiadau, cylchgronau a chyfnodolion, lluniau a gwisgoedd llwyfan rhai o artistiaid benywaidd Jazz mwyaf y byd, sef Blanche Finlay, Y Fones Cleo Laine, Tanjy Wilson a Beryl Bryden.