Mae rheolwr Banc Lloegr yn credu y bydd pa bynnag blaid sy’n ennill yr Etholiad Cyffredinol yn colli grym am amser hir ar ôl gorfod delio gyda thrafferthion economaidd y Llywodraeth.

Yn ôl economegydd o’r Unol Daleithiau, dyna yr oedd Mervyn King wedi dweud wrtho ef mewn cyfarfod preifat fis diwethaf.

Roedd pennaeth y banc wedi dweud y byddai angen toriadau mor “llym” fel y byddai’r blaid sy’n ffurfio’r llywodraeth nesaf “allan o bŵer am genhedlaeth gyfan”.

Mae Banc Lloegr wedi cadarnhau fod y ddau wedi cwrdd fis diwethaf ond wedi gwrthod datgelu beth oedd yn cael ei drafod.

Statws credyd yn dioddef

Mewn cyfweliad ar deledu ABC Awstralia dywedodd yr economegydd, David Hale, y byddai statws credyd Prydain yn gwaethygu os na fydden nhw’n cynnig cynllun credadwy i dorri’r diffyg ariannol.

Ddoe roedd yr IFS – y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol – wedi beirniadu pob un o’r prif bleidiau gan ddweud nad oedden nhw wedi rhoi digon o fanylion wrth ddweud sut y bydden nhw’n torri’r diffyg ariannol.

Heno fe fydd y BBC yn darlledu’r ddadl fawr olaf rhwng arweinwyr y prif bleidiau, a’r pwnc fydd yr economi.

Ym mis Chwefror dywedodd Mervyn King fod angen “cynllun credadwy i leihau’r diffyg ariannol”.