Er ei fod yn gyfarwydd â hanes yr artist o Wlad Pwyl a oedd yn byw yn y pentref nesaf ato yng Nghwm Tawe, mae ei bortreadu mewn drama wedi bod yn her fawr i’r actor Phyl Harries.

Mae The Secret of Belonging gan gwmni Antic Abertawe, yn trafod bywyd a gwaith Josef Herman a ymgartrefodd yn Ystradgynlais ar ôl ffoi o Wlad Pwyl adeg yr Ail Ryfel Byd.

Mae gwaith yr arlunydd yn portreadu gweithwyr y pyllau glo a’r gymuned glos yn y pentre diwydiannol yn y cyfnod.

Yn ôl yr actor Phyl Harries, mae sawl her wrth actio’r artist ar wahân i ddysgu llinellau a pharatoi o fewn pythefnos yn lle mis arferol, at daith drwy Gymru a oedd yn cychwyn yn Theatr Taliesin Abertawe wythnos yn ôl.

“Doedd dim lot o wallt gan Josef, felly fi wedi gorfod siafo gwallt top fy mhen i gyd hefyd! Roedd Herman wrth gwrs yn dod o Wlad Pwyl, felly mae angen meistroli’r acen.”

Wrth baratoi, bu Phyl Harries yn gwrando ar lais Josef Herman ar eitemau a wnaeth ar yr artist ar gyfer rhaglenni teledu.

Ond roedd un agwedd arall o bersonoliaeth yr arlunydd a oedd yn fwy o her na’i acen hyd yn oed.

“Oherwydd ei stori bersonol, y ffaith iddo ffoi o Wlad Pwyl i osgoi erlid y Naziaid, roedd e wrth gwrs mewn gwlad estron heb ei deulu.

“Bu’n rhaid iddo adael ei deulu nôl adre a hynny yn amlwg yn dorcalon iddo. O ganlyniad roedd yn ddyn a oedd yn mynd trwy gyfnodau o iselder ysbryd gwael.

“Roedd e lan a lawr drwy’r amser. Wrth chwarae rhan rhywun fel’na, mae’n tynnu lot oddi wrtha’ i fel person hefyd.”

Cafodd Phyl Harries ei fagu yn Ystalyfera, y pentre’ nesaf at Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, ac er ei fod yn gyfarwydd ag enw Joseff Herman ers yn blentyn, mae wedi dysgu llawer mwy am y dyn erbyn hyn.

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 29