Mae Lembit Öpik yn teimlo’n fwy optimistaidd ynglŷn â’i siawns o gadw ei sedd ym Maldwyn yn sgil poblogrwydd newydd Nick Clegg.
Heblaw am un eithriad Ceidwadol yn 1979, y Rhyddfrydwyr sydd wedi cynrychioli Trefaldwyn yn San Steffan ers 1880.
Ond eleni mae’r cyn-Aelod Cynulliad Ceidwadol, Glyn Davies, yn gobeithio efelychu camp Delwyn Williams yn 1979.
“O ran data canfasio, mae rheswm gyda ni i fod yn optimistig,” meddai Lembit Öpik wrth i Golwg deithio gydag ef i bentref Tre’r Llai ger y Trallwng er mwyn canfasio.
“Dydw i ddim wedi profi unrhywbeth fel y ‘Nick Clegg Bounce’ yn fy holl brofiad fel Democrat Rhyddfrydol,” meddai bron i wythnos ar ôl y ddadl deledu a welodd y gefnogaeth i Nick Clegg yn codi’n syfrdanol.
Mae ei wrthwynebydd Ceidwadol Glyn Davies hefyd yn caniatáu bod y dadleuon wedi newid pethau.
“Cyn y leader’s debate, roeddwn i’n credu fy mod i’n mynd i ennill yma,” meddai.
“Dw i ddim wedi gweld dim byd yma, ond dw i ddim yn gallu anwybyddu beth sy’n mynd ymlaen ar draws y wlad.”
Yma yng nghanol yr ardal wledig ras dau geffyl a fu erioed mewn etholiad cyffredinol.
Ond eleni mae ymgeisydd Plaid Cymru, Heledd Fychan, yn hyderus o wneud yn dda o’r ymateb ar garreg y drws.
“Mae’n bwysig i herio’r ddau arall a chwffio am bob un pleidlais,” meddai. “Mae pobol eisiau rhywbeth arall a mond fi sydd hefo hynny i gynnig yn Sir Drefaldwyn.”
Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 29