Mae’r Crusaders wedi arwyddo un o chwaraewyr rhyngwladol Malta, Jarrod Sammut o’r Penrith Panthers yn Awstralia.
Treuliodd y mewnwr 23 oed ddwy flynedd gyda chlwb y National Rugby League gan sgorio 118 o bwyntiau mewn 38 gêm.
Mae wedi ennill capiau rhyngwladol dros Falta yn rygbi’r gynghrair a’r undeb. Yn ogystal â hynny mae Sammut yn droswr da, er ei fod yn chwarae ar yr asgell.
Roedd y Crusaders yn wynebu cystadleuaeth gan nifer o glybiau eraill i’w arwyddo, ac mae eu hyfforddwr, Brian Noble, yn hapus ei fyd ar ôl cael ei lofnod.
“Rwy’n credi fod Jarrod yn chwaraewr o’r safon uchaf,” meddai Noble. “Mae yna feddwl mawr ohono yn yr NRL, ac mae’n hwb mawr iddo arwyddo gyda’r Crusaders.
“Mae’r math o chwaraewr sy’n gallu newid gêm ac mae’n giciwr ardderchog. Rwy’n credu bod ganddo fo a Michael Witt y potensial i lunio partneriaeth gyffrous iawn.”
Fe allai Jarrod Sammut gael ei gynnwys yng ngharfan y Crusaders ar gyfer eu gêm yn erbyn y Bradford Bulls dros y penwythnos.