Mae’n bosib y bydd James Hook yn rhan o sgwad Cymru ar y daith i Seland Newydd wedi’r cwbl.

Dyw’r chwaraewr a thimau hyfforddi’r Gweilch a Chymru ddim wedi penderfynu eto pryd fyddai’r amser orau iddo gael llawdriniaeth i’w ysgwydd.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud bod angen penderfynu a fydd y chwaraewr amryddawn naill ai yn cael llawdriniaeth ar ôl i dymor y Gweilch ddod i ben, neu yn aros tan ar ôl y gêmau prawf yn erbyn y Crysau Duon.

Pe bai Hook yn cael y llawdriniaeth ar ôl y daith, fe fyddai allan am tua phum mis ac yn siŵr o fethu cyfres yr hydref.

“Mae gan James broblem sydd angen llawdriniaeth ers cyfnod hir,” meddai Gatland.

“Roeddwn i wedi siarad gyda’r Gweilch yn gynharach yn y tymor gan ofyn a fyddai’n well iddo gael y llawdriniaeth cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ond roedden nhw eisiau iddo gael y llawdriniaeth ar ddiwedd y tymor, ac rwy’n deall hynny.”

Dim Shanklin na Delve

Fe fydd hyfforddwr Cymru yn cyhoeddi ei garfan tua chanol mis nesaf ond mae Gatland wedi cadarnhau na fydd canolwr y Gleision, Tom Shanklin, ar gael wrth iddo wella o lawdriniaeth i’w ben-glin.

Fydd yr wythwr Gareth Delve ddim yn cael ei ystyried ar gyfer y garfan chwaith wrth iddo baratoi i symud i Awstralia i chwarae dros y Melbourne Rebels y tymor nesaf.

Fe fydd capten presennol Caerloyw yn ymuno gyda Danny Cipriani ar gyfer tymor cyntaf y Gwrthryfelwyr yn y Super 15 ar ôl gwrthod y cyfle i ddychwelyd i Gymru at y Gleision.

‘Siomedig’

“Ro’n i’n siomedig ei fod wedi gwrthod y cyfle i ddychwelyd i Gymru,” meddai Gatland.

“Fydd e ddim ar gael i chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac mae ei benderfyniad wedi ei atal o rhag bod yn rhan o’r tîm rhyngwladol.

“Roedd e’n gwybod beth fyddai canlyniad symud i Awstralia, ond roedd e’n credu ei fod yn gyfle rhy dda i’w golli. Alla’ i ddim ei feio fe am hynny.”

Er hynny, mae’r hyfforddwr yn dal i gredu y bydd Delve yn opsiwn ar gyfer Cwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd.