Mae bron hanner cynghorau Cymru yn methu â chynnig gwersi nofio yn y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd ble mae nifer fawr o blant yn dysgu’r iaith.

Yn ôl ffigyrau Cymdeithas yr Iaith, mae naw awdurdod lleol yng Nghymru yn “darparu gwersi nofio trwy’r Saesneg yn unig,” gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd. Dyw chwe chyngor arall ddim wedi cofnodi gwybodaeth am iaith y gwersi.

Mae’r sefyllfa’n “hurt”, meddai’r Gymdeithas, gan fynnu bod y ffigyrau’n “dangos yn glir pam bod angen yr hawl cyfreithiol i gael gwasanaethau yn y Gymraeg”.


Sir Gâr a Phowys

Mae ffigyrau gan y Gymdeithas yn dweud fod awdurdod lleol Sir Gâr wedi cyfaddef fod llai nag un y cant o wersi nofio – 10 gwers allan o 6,200 – wedi’u darparu yn y Gymraeg ym mhwll nofio Rhydaman y llynedd.

Yn ôl y Gymdeithas, mae 62% o boblogaeth y dref a 50% o’r Sir yn siarad Cymraeg.”

Ym Mhowys, mae llai na dau y cant o’r gwersi yn y Gymraeg, yn ôl y Gymdeithas a hynny “mewn sir lle mae dros ugain y cant yn siarad yr iaith”.

Yn 2007, medden nhw, fe ofynnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i wasanaethau hamdden y cynghorau sir gasglu data a chynyddu nifer y gweithgareddau hamdden lleol sydd ar gael trwy’r Gymraeg, a gwneud hynny erbyn Medi 2008.