Mae amddiffynnwr Abertawe, Alan Tate wedi dweud nad oes gan yr Elyrch hawl disgwyl bod yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Cael eu haeddiant wnân’ nhw, meddai Tate, cyn y penwythnos sy’n penderfynu a fydd y tîm yn cael ail gyfle ai peidio.
Roedd yn cyfadde’ bod peryg eu bod nhw wedi colli eu cyfle ond yn dweud yr un pryd eu bod wedi cael eu tymor gorau ers bron 30 mlynedd.
Mae Abertawe yn seithfed yn y gynghrair, un safle tu allan i’r gemau ail gyfle – ac un pwynt tu ôl i Blackpool gyda dim ond un gêm yn weddill.
Dim cam
Roedd tîm Paulo Sousa wedi bod yn safleoedd y gemau ail gyfle ers rhai misoedd cyn disgyn i’r seithfed safle, ond dyw Tate ddim yn credu y byddai colli’r cyfle yn golygu cael cam.
“Mae’n amhosib dweud ein bod ni’n haeddu bod yn y gemau ail gyfle. R’ych chi’n gorffen y tymor ble’r ’ych chi’n haeddu gorffen,” meddai Alan Tate.
“Dyw’r gemau diwethaf oddi cartref yn erbyn Bristol City a Sheffield Utd ddim wedi bod yn ddigon da.”
‘Rhwystredig’
“Rwy’n gallu deall pam bod rhai o’r cefnogwyr yn anhapus gyda’r ffaith fod y cyfan allan o’n dwylo ni.
“R’yn ni’n teimlo’n rhwystredig ar hyn o bryd oherwydd r’yn ni’n gwybod efallai ein bod ni wedi taflu’r cyfle heibio ar ôl gwneud mor dda.
“Ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod wedi cael tymor da. Beth bynnag sy’n digwydd fe fyddwn ni wedi gorffen yn ein safle uchaf ers 27 mlynedd. Fe allwn ni dal fod yn falch o beth mae’r tîm wedi’i gyflawni.”