Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wedi condemnio honiadau gan aelod o Blaid Cymru eu bod yn “pardduo aelodau Plaid Cymru fel eithafwyr iaith”.
Gwnaethpwyd y cyhuddiad gan y cyn AS a chadeirydd ymgyrch etholiadol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Cynog Dafis.
Dywedodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion yn “pardduo aelodau Plaid Cymru fel eithafwyr iaith er mwyn ennill pleidleisiau”.
Yr honiadau
Yn ôl Cynog Dafis: “Fore Sadwrn diwethaf fe ddywedodd canfasiwr DemRhydd, hithau’n gynghorydd tref yn Aberystwyth, wrth aelod o’r cyhoedd: ‘Plaid Cymru are only interested in Welsh speakers. If you don’t speak Welsh as far as Plaid Cymru are concerned you’re Sais, Saesneg.”
“Roedden ni’n amau ers tro fod y DemRhydd yn rhoi’r stori yma ar led ac felly fe drefnon ni i gefnogydd di-gymraeg daro sgwrs â chanfasiwr. Felly y cawson ni gadarnhad fod sail i’n pryderon,” meddai Cynog Dafis cyn dweud ei bod yn “weddol amlwg” nad “esiampl unigol” yw hyn.
“Mae yna hanesion yn cyniwair ar hyd a lled y sir fod canfaswyr Plaid Cymru yn dweud wrth etholwyr di-gymraeg nad oes gyda nhw ddim diddordeb ynddyn nhw ac yn symud ymlaen i’r tŷ nesaf. Lol botes maip yw’r storiâu anwireddus yma wrth gwrs,” meddai Cynog Dafis.
‘Lloerig’
Dywedodd Elizabeth Evans, Rheolwr Ymgyrchu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wrth Golwg360 ei bod yn “lloerig bod rhywun wedi dweud hyn”.
“Dydyn nhw ddim yn siarad ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion nac yng Nghymru,” meddai wrth Golwg360.
“Hoffwn i wybod pwy sydd wedi dweud hyn,” meddai Elizabeth Evans cyn dweud fod Mark Williams yn “sefyll dros yr iaith” ac yn ei “dysgu”.
“Rydan ni’n condemnio’r honiadau’n llwyr – ddim dyma be’ dan ni’n sefyll amdano o gwbl – rydan ni’n gefnogol i’r iaith,” meddai.