Mae Enzo Maccarinelli wedi cipio coron go drwm (cruiserweight) Ewrop ar ôl curo Alexander Kotlobay yn rownd gyntaf yr ornest yn St Petersburg.
Pedwardeg pump eiliad yn unig gymerodd hi i’r Cymro gwbwlhau’r dasg gan lorio’r gŵr o Rwsia gydag ergyd drom.
Dim ond unwaith mewn 20 gornest roedd Kotlobay wedi colli cyn wynebu Maccarnielli, ond roedd y gwahaniaeth mewn safon yn amlwg.
Dyma’r trydydd tro yn olynol i’r Cymro ennill ei ornest yn y rownd gyntaf wedi buddugoliaethau blaenorol yn erbyn Krisztian Jaksi a Zoltan Czekus.
Fe fydd y gweir yn hwb i obeithion Maccarinelli i ad-ennill coron y byd, a gollodd yn erbyn David Haye yn 2008.