Mae Mike Ruddock wedi ymddiswyddo fel cyfarwyddwr rygbi Caerwrangon dyddiau’n unig ar ôl i’r clwb golli eu lle yn Uwch Gynghrair Guinness Lloegr.

Roedd Ruddock, wnaeth hyfforddi Cymru i’r Gamp Lawn yn 2005, wedi bod gyda Caerwrangon am dri tymor.

Collodd y clwb eu lle ym mhrif gynghrair rygbi Lloegr ar ôl cael eu curo 12-10 gan Leeds dydd Sul diwethaf.

Bydd rheolwr yr academi, Andrew Stanley yn rheoli’r tîm ar gyfer eu gêm olaf o’r tymor yn erbyn Caerloyw ar 8 Mai.

Roedd yna eisoes sïon y byddai’n gadael ac y byddai cyn hyfforddwr Caerloyw, Dean Ryan, yn ei olynu.

Mae cadeirydd Caerwrangon, Cecil Duckworth, wedi diolch i Mike Ruddock am ei waith dros y dair mlynedd ddiwethaf.

“Rwyf wastad wedi mwynhau perthynas dda iawn gyda Mike ac yn diolch am ei gyfraniad i’r clwb,” meddai’r cadeirydd.

“Mae Mike wedi gweithio’n galed i ddatblygu strwythur o fewn y clwb a fydd yn ein galluogi i barhau i dyfu.

“Ond mae canlyniadau’r tymor hwn wedi bod yn siomedig iawn, ac mae Mike wedi cymryd cyfrifoldeb am hynny.

“Fe fyddwn ni nawr yn chwilio am olynydd i Mike ac ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant iddo ef a’i deulu yn y dyfodol,” ychwanegodd Cecil Duckworth.