Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl ar ôl dal gafael ar Gwpan Cynghrair Loosemores gyda buddugoliaeth 3-1 yn erbyn y Rhyl.

Dyma’r gwpan ar gyfer clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn unig.

Fe sgoriodd Chris Seargeant dwy gôl a Jamie Wood un i sicrhau ail lwyddiant mewn llai nag wythnos ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru dydd Sadwrn diwethaf.

Roedd y Seintiau Newydd yn wedi mynd 2-0 ar y blaen cyn hanner amser ac roedd cyfle i sicrhau’r fuddugoliaeth yn gynnar yn yr ail hanner ar ôl cael cic gosb.

Ond fe fethodd Craig Williams a sgorio ac fe gafodd y Rhyl eu hysgogi gan hynny. Yn fuan wedyn fe sgorioddd Rob Turner o groesiad Chris Williams i haneru mantais y pencampwyr.

Ond roedd amddiffyn y Seintiau Newydd wedi dal yn gadarn wrth i’r Rhyl geisio unioni’r sgôr.

Gydag ychydig llai ‘na chwarter awr o’r gêm yn weddill fe sgoriodd Seargent ei ail gôl a sicrhau’r fuddugoliaeth.