Mae yna adroddiadau nad oes gan West Ham ddiddordeb bellach yn rheolwr Caerdydd, Dave Jones, ar ôl i’r clwb o Lundain sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Roedd Dave Jones wedi cael ei gysylltu gyda’r swydd yn dilyn tymor siomedig i West Ham o dan reolaeth Gianfranco Zola.
Yn ôl papur newydd y Western Mail roedd perchennog West Ham, David Sullivan, yn awyddus i ddenu Jones i’r clwb pe bai’r Hammers wedi colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair.
Ond gyda West Ham wedi sicrhau eu lle ym mhrif gynghrair Lloegr y tymor nesaf, fe fydd Sullivan yn awyddus i benodi enw mawr yn rheolwr pe bai Zola yn gadael.
Erbyn hyn, cyn chwaraewr West Ham, Slaven Bilic yw un o’r ffefrynnau i gymryd yr awenau.
Mae cyn reolwr Lloegr, Steve McClaren, yn ogystal â rheolwr Portsmouth Avram Grant wedi eu cysylltu gyda’r swydd.
Mae Dave Jones wedi dweud ei fod o’n canolbwyntio ar sicrhau dyrchafiad i Gaerdydd i’r Uwch Gynghrair trwy’r gemau ail gyfle.