Mae grŵp o archeolegwyr Cristnogol yn honni eu bod nhw wedi dod o hyd i weddillion Arch Noa ar fynydd Ararat yn Nhwrci.
Mae cwmni creu rhaglenni dogfen Noah’s Ark Ministries International, o Hong Kong, yn honni eu bod nhw wedi gwneud profion dyddio carbon sy’n dangos bod y pren yn 4800 mlynedd oed.
“Mae’n amhosib dweud gant y cant mai dyma Arch Noa ond r’yn ni 99.9 y cant yn siŵr,” meddai Yeung Wing-cheung, un aelod o’r tîm o 15.
Yn ôl y Beibl glaniodd Arch Noa ar fynydd Ararat ar ôl hwylio trwy ddilyw byd eang wedi ei greu gan Dduw.
Dywedodd Yeung Wing-cheung fod gan y cwch sawl adran wahanol ar gyfer cadw anifeiliaid o wahanol fathau.
Y cam nesaf yw gwneud cais i lywodraeth Twrci am statws Safle Treftadaeth y Byd fel ei bod hi’n bosib cynnal asesiad archeolegol o’r cwch.
Mae sawl un wedi honni gweld Arch Noa ar y mynydd yn y gorffennol ond mae iâ ac eira yn gorchuddio’r copa’r mynydd drwy’r rhan fwyaf o’r flwyddyn.