Mae Bryn Terfel ac Ymddiriedolaeth Elusen y Faenol wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl y Faenol yn cael ei chynnal y flwyddyn hon.

Fe fydd yr Ŵyl sy’n 10 mlwydd oed eleni’n cael ei chynnal ar Ystâd y Faenol ger Caernarfon rhwng 27 a 30ain o Awst, er iddi orfod cael ei chanslo y llynedd.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau cytundeb gydag Universal Music Classical Management & Productions ynghŷd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Gwynedd.

‘Cerddoriaeth gyffrous’

“Mae hyrwyddwyr yr Ŵyl wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cerddoriaeth gyffrous i ddathlu’r 10 mlynedd diwethaf ac i ychwanegu elfennau newydd cyffrous i’r Ŵyl gan gynnwys strwythur newydd at y dyfodol,” meddai Ymddiriedolwyr elusen y Faenol.

Fe fydd rhagor o fanylion ynghylch rhestr cerddorion yr Ŵyl yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

‘Bargen hir dymor’

“Mae Bryn a’r Ymddiriedolaeth wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau bargen hir dymor ar gyfer dyfodol yr Ŵyl gydag Universal Music,” meddai Syr David Henshaw, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol.

“Gyda’r rhestr artistiaid, strwythur newydd yr Ŵyl a chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Gwynedd, rydym yn hyderus mai 10fed Gŵyl Faenol Bryn Terfel fydd y gorau eto. Rydan ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi’r manylion llawn yn ystod yr wythnosau i ddod.”