Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi’r gwres yn ymgyrch yr etholiad trwy awgrymu mai ras dau geffyl yw hi bellach – rhyngddyn nhw a’r Ceidwadwyr.
Fe ddywedodd Nick Clegg wrth bapur newydd y Times bod ei blaid wedi disodli Llafur ar ochr chwith y canol.
Mae’n honni ei bod yn bosib o hyd i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael mwy o bleidleisiau na’r ddwy blaid fawr arall ac fe fyddai’n hoffi byw yn rhif 10 Downing Street.
“Dw i’n credu bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol dîm disglair iawn, iawn ac mi fyddwn wrth fy modd yn ein gweld yn llywodraethu ac, wrth gwrs, dw i eisiau bod yn Brif Weinidog,” meddai.
Roedd diwygio’r system wleidyddol yn sicr o ddigwydd, bellach, meddai wedyn gan fynnu mai Rhyddfrydiaeth oedd yn gwthio newid bellach nid “agwedd wladwriaethol” y Blaid Lafur.
Ceidwadwyr yn dal i arwain, meddai’r arolygon
Er hynny, mae’r polau piniwn yn dal i awgrymu bod y Ceidwadwyr ar y blaen ac yn ennill ychydig o dir.
• Yn ôl arolwg Populus, mae’r Torïaid bellach ar 36, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 28 a Llafur ar 27.
• Yn ôl arolwg Com Res, 33 yw sgôr y Torïaid, gyda’r Democratiaid a Llafur yn gyfartal ar 29.