Roedd 100 o droseddwyr rhyw wedi rhannu a dosbarthu 2 filiwn o luniau anweddus o blant, meddai cymdeithas warchod plant yr NSPCC.
Maen nhw wedi galw ar y llywodraeth nesa’ i addo cydweithio gyda nhw a chwmnïau’r rhyngrwyd i atal y cynnydd mewn troseddu o’r fath.
Roedd y ffigurau wedi eu casglu o achosion llys yn ystod yr 20 mis diwetha’ yng ngwledydd Prydain – dim ond sampl ydyn nhw, meddai’r gymdeithas, sy’n dweud bod llawer mwy o droseddu’n digwydd mewn gwirionedd.
Roedd chwarter y sampl o gant yn bobol mewn swyddi o ymddiried lle’r oedden nhw’n cael cyswllt uniongyrchol gyda phlant – roedden nhw’n cynnwys athrawon a gweithwyr ysgol, heddlu, gweithwyr meddygol a gweithiwr cymdeithasol.
Roedd un o bob chwech o’r troseddwyr a fu’n rhannu lluniau hefyd wedi ymosod yn rhywiol ar blant neu wedi eu hudo.
Y categori gwaetha’
Yn ôl y gymdeithas, roedd 50,000 o’r lluniau a’r fideos yn y categori gwaetha’ o gam-drin, yn dangos oedolion yn treisio plant a babanod.
“Mae plant a babanod yn cael eu cam-drin yn ddifrifol er mwyn bwydo’r galw am y lluniau a’r fideos yma,” meddai llefarydd. “A phob tro y mae rhywun yn edrych arnyn nhw, mae plant ifanc yn cael eu diraddio fwy a mwy.”
Un o bryderon yr elusen yw bod y pedoffiliaid yn defnyddio dulliau newydd o rwydweithio ar y Rhyngrwyd – rhwydweithiau tebyg-at-debyg, neu ‘peer-to-peer’ – ac maen nhw’n galw ar wleidyddion i gydweithio i atal hynny.
Llun: Rhai o gyhoeddiadau ymgyrchu’r NSPCC