Gyda disgwyl i ymgyrch yr etholiad droi at wario cyhoeddus, mae’r Canghellor wedi dweud y byddai Llafur yn cadw Fformiwla Barnett ar gyfer rhoi arian i Gymru.

Yn ôl Alistair Darling, mae’r drefn yn gweithio ac fe fydd yn gwneud yn siŵr na fydd Cymru’n cael cam.

Wrth ymweld â Chymru ddoe, roedd hefyd yn pwysleisio y byddai Cymru’n elwa o fesurau eraill, er enghraifft y bwriad i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i dde Cymru.

Roedd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn canolbwyntio ar economi Cymru hefyd.

Yn ôl y Torïaid, fe fyddai cael cynllun symlach i dynnu pobol yn ôl i weithio yn rhoi cyfle newydd i 190,000 o bobol yng Nghymru.

Sôn am swyddi gwyrdd yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda’r arweinydd Cymreig, Kirsty Williams, yn dweud y bydden nhw’n buddsoddi £125 miliwn yng Nghymru.

Llun: Alistair Darling