Mae Plaid Cymru wedi ymateb i honiad bod y Ceidwadwyr yn ystyried trafod gyda nhw, yr SNP a phleidiau unolaethol Gogledd Iwerddon.
Does dim trafodaethau wedi bod, medden nhw, a fydd y Blaid ddim yn trafod gydag unrhyw blaid nes y bydd yr etholwyr wedi rhoi eu barn ar Fai 6.
Yn ôl llefarydd, fe fyddai’n anodd iawn bargeinio gyda’r Ceidwadwyr o ystyried yr holl doriadau y maen nhw’n ei gynllunio mewn gwario cyhoeddus yng Nghymru.
Ond, yn ôl papur y Financial Times, mae arweinwyr y Torïaid yn ystyried trafod gyda’r Blaid, yr SNP a phleidiau unolaethol Gogledd Iwerddon os na fyddan nhw’n cael mwyafrif clir.
‘Gwell Plaid na PR’
Yn ôl stori’r FT, fe fyddai llawer o Geidwadwyr yn barotach i wneud hynny na chael bargen gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a gorfod ildio iddyn nhw tros bleidleisio cyfrannol, PR.
Ond, o gofio mai’r Ceidwadwyr sydd am dorri mwya’ ar wario cyhoeddus, mae Plaid Cymru wedi pwysleisio eu bod nhw am geisio gwarchod y bobol fwya’ bregus a lefelau gwario yng Nghymru.
Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Yn yr etholiad hwn, mae Plaid a’r SNP wedi gwneud yn glir mai ein blaenoriaethau ni mewn Senedd gytbwys fydd gwarchod swyddi, ysgolion ac ysbytai yn ogystal â sicrhau ariannu tecach i’n cenhedloedd.”
Plaid yn ymosod ar y Democratiaid
Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol gan ddweud na fyddai modd dibynnu arnyn nhw mewn senedd grog.
Roedden nhw wedi troi cefn ar gyfle i greu clymblaid yn y Cynulliad yn 2007, medda arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones.
“Mae eu gwleidyddion mor annibynadwy â’u polisïau,” meddai, “ac ar gyfnod o galedi economaidd all y Deyrnas Unedig ddim fforddio ar blaid a fydd wastad yn rhoi blaenoriaeth i’w buddiannau cul eu hunain yn hytrach na gwneud y gorau i’w gwlad.”
Mae’r ymosodiad yn arwydd o bryder y Blaid tros gynnydd y Democratiaid yn y polau a’r effaith posib ar sedd fel Ceredigion, lle mae’r Blaid yn herio mwyafrif i’r Lib Dems o ddim ond 219.
Llun: Ieuan Wyn Jones mewn rali (Llun – Plaid Cymru)