Mae graffiti wedi cael ei baentio dros wal eiconig Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud, a hynny wrth i ymgyrchwyr geisio codi £50,000 i’w chadw i’r genedl.
Cafodd y wal ei phaentio’n wreiddiol gan y llenor Meic Stephens, tad y DJ Huw Stephens sy’n gyflwynydd ar BBC Radio 1, yn 1965.
Mae hi wedi ei hail baentio sawl gwaith ers hynny, unwaith gan yr actor Rhys ap Hywel yn 1991.
Mae cynlluniau ar waith i atgyweirio’r hen wal sydd mewn peryg o ddisgyn. Mae’r wal, a oedd yn rhan o dŷ fferm dros ganrif yn ôl, ar ochr ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud.
Diogelu’r wal
Mae ymgyrchydd dros adfer wal ‘Cofiwch Dryweryn’ ger Llanrhystud wedi annog pobl Cymru i sicrhau bod y wal yn cael ei warchod ar ôl i graffiti orchuddio’r geiriau eiconig.
“Mae angen diogelu’r wal a’r slogan sy’n symbol o hanes Cymru,” meddai Wynne Melville Jones.
“Mae’n atgoffa pobl nad ydym ni am gael Tryweryn arall, ac mae angen ei ddiogelu’n barhaol.
“Fe gychwynnodd y neges Cofiwch Dryweryn fel darn o graffiti, ond mae wedi goroesi amser ac wedi dod yn eicon.
“Mae’n drueni pe bai’r person sydd wedi gwneud y graffiti wedi dod o hyd i rywle arall i weld a fyddai ei waith ef yn goroesi amser!
“Y cam nesaf fydd adfer y wal ‘nôl i fel oedd hi,” ychwanegodd.
Apêl
Mae Wynne Melville Jones yn rhan o ymgyrch ‘Cadwn y Mur’ sy’n gobeithio codi £50,000 er mwyn cynnal a gwarchod y wal eiconig.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymrwymo i gynnal y wal ond mae angen sicrhau bod ganddynt yr adnoddau i wneud y gwaith hwnnw.
Mae’r ymgyrch yn apelio ar bobl i noddi un garreg am £50, gydag enwau’r cyfranwyr yn cael ei nodi ger y wal.
“Mae ’na dipyn o ffordd i fynd, ac mae lan i bobl Cymru i warchod ei ddyfodol,” nododd Wynne Melville Jones.