Does yr un o’r tair plaid Brydeinig fawr yn bod yn agored ynglŷn â thoriadau mewn gwario cyhoeddus, meddai un o’r prif sefydliadau ymchwil.

Mae’r tair yn cydnabod y bydd angen toriadau anferth ond dydyn nhw ddim wedi mynd yn agos at egluro beth a sut, meddai’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol, yr Institute of Fiscal Studies.

Eu neges yw y bydd angen toriadau llawer mwy nag sydd wedi’u disgrifio hyd yma – naill ai mewn gwasnaethau cyhoeddus neu fudd-daliadau.

Niwlog

Mae pedwar o’u harbenigwyr wedi edrych ar broffwydoliaethau ariannol y Trysorlys ac addewidion y pleidiau a chael y cyfan yn brin.

“Mae’r pleidiau’n amharod i ddweud sut y bydden nhw’n gweithredu,” meddai’r papur ymchwil. “Maen nhw’n arbennig o niwlog ynglŷn â gwario cyhoeddus.”

Y disgwyl yw y bydd rhaid arbed £71 biliwn erbyn 20109-11, a hynny naill ai trwy godi trethi neu dorri gwario.

Yn ôl y Sefydliad, does yr un o’r tair prif blaid wedi dangos yn iawn sut y bydden nhw’n torri gwario – mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi disgrifio 25.9% o’r toriadau angenrheidiol, y Ceidwadwyr 17.7% a Llafur 13.1%.

Y ffigurau

Mae cynlluniau’r pleidiau’n amrywio yn eu ffyrdd o arbed y £71 biliwn, gyda rhaniad gwahanol rhwng codi trethi a thorri gwario.

• Fe fyddai Llafur yn ceisio torri £47biliwn y flwyddyn a chodi £24 biliwn trwy drethi.

• Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn torri £51 biliwn a chodi £20 biliwn.

• Fe fyddai’r Ceidwadwyr yn torri £57 biliwn ac yn codi £14 biliwn trwy drethi.

Yn ôl y Sefydliad, mae Llafur a’r Democratiaid yn cynllunio’r toriadau mwya’ ers diwedd y 70au, a’r Ceidwadwyr yn ystyried y toriadau mwya’ ers yr Ail Ryfel Byd.

Ymateb

Mae Plaid Cymru’n hawlio bod yr adroddiad yn cefnogi eu safbwynt nhw nad yw’r pleidiau mawr yn bod yn onest ac y byddai setliad ariannol teg i Gymru yn help i arbed 9,000 o swyddi cyhoeddus.