Bydd angladd milwr o Abertawe a gafodd ei ladd mewn brwydr gyda gwrthryfelwyr yn Afghanistan yn cael ei gynnal heddiw.
Bu farw’r Ffiwsilwr Jonathan Burgess, 20 oed, o Fataliwn 1af y Gatrawd Frenhinol Gymreig, ar ôl cael ei saethu yn ardal Nad-e-ali pan oedd ar batrôl ger tref Showal, yn nhalaith Helmand.
Dywedodd ei gyfeillion ei fod yn awyddus i ddychwelyd i Brydain er mwyn bod gyda’i ddyweddi, Kelly Forrest, sy’n feichiog ar hyn o bryd gyda’u merch, Abigail.
Mae hefyd yn gadael ei rieni Royston a Susan, ei chwaer Tracy a Suzanne, a’i frodyr David, Christopher ac Ashley.
Dywedodd ei deulu ar ôl ei farwolaeth ei fod o’n “ddyn annwyl, gofalgar ac yn mwynhau bywyd i’r eitha’. Roedd ganddo wên heintus a fyddai’n llonni pawb o’i amgylch.
“Rydan ni gyd yn lwcus iawn i fod wedi cael rhywun mor arbennig yn ein bywydau. Mae ei farwolaeth yn golled fawr i ni gyd. Mae’n arwr i ni i gyd.”
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Abertawe heddiw.